Gwasanaethau Cyfieithu ym maes Twristiaeth
Mae angen arbenigedd ieithyddol neilltuol ar gyfer cyfieithu llenyddiaeth sy'n seiliedig ar deithio a thwristiaeth, gan gynnwys defnyddio geirfa a therminoleg benodol, a gwybodaeth fanwl am y busnes teithio.
Dim ond cyfieithwyr sy'n cyfieithu i'w mamiaith ac sydd â llawer o flynyddoedd o arbenigedd mewn cyfieithu ar gyfer teithio a thwristiaeth a ddefnyddiwn ni. Oherwydd mai tîm bach o gyfieithwyr profiadol yn unig a ddefnyddiwn, gallwn fonitro pob cyfieithiad yn fanwl i sicrhau'r ansawdd uchaf bob tro.
Rydym hefyd yn gwerthfawrogi bod ein cleientiaid angen mwy na dim ond cyfieithiad. Dyna pam ein bod yn ymfalchïo yn ein gallu i addasu'r testun neu ddogfen wrth gyfieithu i anghenion eich cynulleidfa darged, gan roi ystyriaeth i wahaniaethau diwylliannol ac ieithyddol - i ni, mae cyfieithiad yn waith creadigol ac mae ein sgiliau ysgrifennu yn sicrhau bod pob testun yn newydd ac yn wreiddiol.
Arbenigedd penodol:
- Arweinlyfrau a chanllawiau i ymwelwyr
- Gwefannau teithio a thwristiaeth
- Llyfrynnau a thaflenni
- Canllawiau amgueddfeydd ac arddangosfeydd
- Erthyglau papur newydd/cylchgronau
- Deunyddiau hysbysebu a marchnata
- Cylchlythyrau
- Contractau a gohebiaeth
- Cronfeydd data ar-lein
Meddalwedd:
Rydym yn gweithio gyda'r prif becynnau meddalwedd gan sicrhau y dychwelir ein cyfieithiadau atoch yn yr un fformat a gosodiad â'r ddogfen wreiddiol.
Rydym hefyd yn gyfarwydd â'r prif raglenni prosesu awtomatig a rhwydweithiau'r Fewnrwyd, sy'n ein galluogi i lawrlwytho/llwytho'r holl destunau wedi eu cyfieithu a ffeiliau yn uniongyrchol o neu i'ch rhwydwaith neu wefan.
Cyfraddau cyfieithu:
Dyfynnir ein prisiau yn ôl pob mil o eiriau, gyda chyfraddau gwahanol yn cael eu codi yn dibynnu ar y cyfuniadau o ieithoedd. Ar gyfer dogfennau gyda llai na mil o eiriau, codir cyfradd pro rata neu isafswm yn dibynnu ar hyd y testun.
Mae Telelingua wedi ei gofrestru ar gyfer TAW, felly ychwanegir TAW at yr anfoneb derfynol pan fo hynny'n briodol.

I ddarganfod mwy am ein hystod o wasanaethau cyfieithu ym maes twristiaeth galwch +44 (0)1873 812 012 neu cysylltwch â telelingua.
