Ein Cleientiaid
Swyddfa Dwristaidd Llywodraeth Ffrainc
Telelingua yw'r brif asiantaeth cyfieithu ar gyfer Swyddfa Dwristaidd Llywodraeth Ffrainc (Maison de la France) yn y DU. Mae'n cyfieithu erthyglau a datganiadau i'r wasg ar gyfer y wefan bob wythnos, a lwythir gan Telelingua yn uniongyrchol i'w gwefan drwy raglen a brosesir yn awtomatig.
Arweinlyfrau Coch Michelin
Mae Telelingua wedi gweithio gydag Arweinlyfrau Coch Michelin am ddegawd, yn cyfieithu a golygu disgrifiadau o westai a argymhellir a bwytai y rhoddwyd sêr Michelin iddynt ar gyfer arweinlyfrau Ffrainc ac Ewrop.
Arweinlyfrau Gwyrdd Michelin
Telelingua fu'n gyfrifol am gyfieithu Arweinlyfrau Gwyrdd Michelin i'r Aifft ac Andalwsia. Mae hefyd wedi golygu a chyfieithu cyfraniadau at yr Arweinlyfrau Gwyrdd canlynol: Sbaen; Portiwgal, Yr Eidal; Twsgani; Sisili; Fenis; Rhufain; Profens; Rhanbarthau Gwin Ffrainc. Telelingua hefyd gyfieithodd yr arweinlyfrau bychain canlynol: Granada; Seville; Córdoba.
Le Pérégrinateur Editeur
Helen Isaacs a Jeremy Kerrison yw awduron Practical Guide to Toulouse/Midi-Pyrénées (sydd bellach yn ei chweched argraffiad). Maent hefyd wedi cyfieithu'r cyhoeddiadau canlynol: Toulouse Mini-Guide; Versailles; The Lady and the Unicorn.
Bwrdd Croeso'r Dordogne
Cyfieithu gwefan Dordogne (i'r Saesneg). Cyfieithu a chysodi/dylunio dau lyfryn 30 tudalen o'r Ffrangeg i'r Saesneg, yr Almaeneg, yr Iseldireg, yr Eidaleg a'r Sbaeneg. Cyfieithu cronfa ddata 200 tudalen ynglyn â llety a nifer o ddatganiadau i'r wasg.
Bwrdd Croeso Paris-Ile de France
Cyfieithu deunydd marchnata a hyrwyddo, cyflwyniadau a theithlenni teithiau cynefino.
Bwrdd Croeso Corrèze
Cyfieithu gwefan Corrèze, arweinlyfrau poced a nifer o lyfrynnau.
Bwrdd Croeso Anjou (Loire)
Cyfieithu i'r Saesneg gronfa ddata llety yn cynnwys 200 eiddo.
Bwrdd Croeso Aude
Cyfieithu nifer o ganllawiau teithio a gwin, datganiadau i'r wasg a chronfa ddata eiddo i'w rentu yn Clévacances, a lwythir yn uniongyrchol i wefan y bwrdd croeso.
Swyddfa Croeso Bayeux
Cyfieithu datganiadau i'r wasg a chanllawiau gastronomig i'r Saesneg, yr Almaeneg a'r Iseldireg.
Swyddfa Croeso Blois
Cyfieithu testun gwefannau a chanllaw 20 tudalen o wyliau byr i'r Saesneg a'r Sbaeneg.
Musée des Augustins, Toulouse
Cyfrannu cyfieithiadau i'r arweinlyfrau canlynol ar gyfer amgueddfeydd: "Romanesque Sculpture" a "Paintings and Sculptures from the Middle Ages to the 20th Century".
Clévacances
Cyfieithu nifer o gronfeydd data yn ymwneud â llety drwy fyrddau croeso rhanbarthol.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Cyfieithu'r llyfryn 'Ein Byd Naturiol' i'r Gymraeg.
Media Design, Wales
Cyfieithu llyfrynnau/taflenni i nifer o ieithoedd.
Hôtel Les Deux Tours, Marrakech
Cyfieithu datganiadau i'r wasg o'r Ffrangeg i'r Saesneg.
Explore Worldwide
Cyfieithu contractau a rheoliadau diogelwch ar gyfer darparwyr gwasanaethau twristiaeth.
Croeso Cymru
Aseiniadau yn ymwneud â chyfieithu ar y pryd/tywys ar gyfer asiantaethau teithio, trefnyddion teithiau ac ysgrifenwyr llyfrau taith.
Page & Moy
Cyfieithu contractau a gohebiaeth rhwng prif swyddfa'r cwmni a darparwyr gwasanaeth dramor (gwestai, asiantaethau lleol ac ati).

I ddarganfod sut y gallai ein gwasanaethau cyfieithu ym maes twristiaeth helpu eich busnes chi galwch +44 (0)1873 812 012 neu cysylltwch â telelingua.
