Dylunio Llyfrynnau
Ydych chi eisoes wedi dylunio llyfryn neu daflen yn eich iaith eich hun, ond byddai'n well gennych beidio â gorfod ei hail-greu mewn ieithoedd eraill?
Mae gan Telelingua brofiad sylweddol o reoli'r math hwn o brosiect mewn nifer o ieithoedd (Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg, Almaeneg, Iseldireg, Sbaeneg, Portiwgaleg ac Eidaleg).
Bydd ein cyfieithwyr arbenigol ym maes twristiaeth yn gofalu am ochr ieithyddol pethau, a bydd ein dylunwyr graffig, sy'n brofiadol iawn o ran gweithio gyda dogfennau mewn ieithoedd tramor, yn gofalu am yr ochr dechnegol. Gyda'n harbenigedd mewn lleoleiddio a darllen proflenni gallwn gynhyrchu cyhoeddiadau o'r ansawdd gorau i'n cleientiaid.
Gweithiwn gyda PC a Mac, a mwyafrif y pecynnau meddalwedd DTP a dylunio, gan gynnwys QuarkXPress, Adobe InDesign, Acrobat Professional ac Illustrator.

I drafod eich gofynion penodol o ran dylunio llyfrynnau neu i ofyn am ddyfynbris galwch +44 (0)1873 812 012 neu cysylltwch â telelingua.
