telelingua: iaith taith a thwristiaeth
English Cymru Francais Ffôn: +44 (0)1873 812 012 info@telelingua.co.uk

Am Telelingua

Ym 1997 sefydlwyd Telelingua gan bartneriaeth Jeremy Kerrison a Helen Isaacs gan gyfuno dau o'r pethau pwysicaf yn eu bywydau: teithio ac ieithoedd.

Ar ôl teithio'n helaeth o amgylch y byd a byw a gweithio mewn nifer o wledydd yn Ewrop, daethant i sylweddoli'n fuan iawn bod angen penodol am wasanaethau iaith wedi'u teilwrio ar gyfer teithio a thwristiaeth.

Golygai cefndiroedd y ddau, fel ieithyddion proffesiynol a thywyswyr teithiau, eu bod mewn sefyllfa dda i lenwi'r bwlch hwn yn y farchnad ac felly gwnaed y penderfyniad i sefydlu Telelingua ar ôl dychwelyd i'r Deyrnas Unedig o Ffrainc dros ddegawd yn ôl.

Jeremy Kerrison

Jeremy KerrisonAr ôl astudio Ffrangeg, Sbaeneg a Phortiwgaleg mewn prifysgol yn Lloegr, treuliodd Jeremy nifer o flynyddoedd yn gweithio fel tywysydd yn Ffrainc, Sbaen, Portiwgal ac America Ladin yn bennaf.

Ar ôl cyfnod o dair blynedd yn gweithio fel Ymgynghorydd Teithio a Chyfarwyddwr Teithiau ar ran Journey Latin America, trefnyddion teithiau arbenigol wedi'u lleoli yn Llundain, symudodd i dde orllewin Ffrainc, gan weithio fel cyfieithydd annibynnol am bum mlynedd, cyn dychwelyd i'r Deyrnas Unedig ym 1997.

Fel cyfieithydd proffesiynol mae Jeremy wedi cyfieithu'r Michelin Green Guide to Andalucia o'r Sbaeneg i'r Saesneg ac mae wedi gweithio gyda Helen ar gyfieithu/golygu'r Michelin Guide to Egypt o'r Ffrangeg i'r Saesneg. Mae hefyd yn gyd-awdur Practical Guide to Toulouse/Midi-Pyrénées sydd bellach yn ei chweched argraffiad.

Mae Jeremy yn parhau i weithio fel tywysydd dros Abercrombie & Kent ar deithiau yn Ffrainc, Sbaen a Phortiwgal, sy'n galluogi iddo gadw cysylltiadau cryf gyda'r diwydiant teithio a'r datblygiadau diweddaraf mewn twristiaeth.

Pan nad yw'n teithio neu'n cyfieithu, mae Jeremy wrth ei fodd ar gwrt tenis neu'n cerdded mynyddoedd Cymru!

*

Helen Isaacs

Helen IsaacsAr ôl graddio mewn Ffrangeg ac Eidaleg, cwblhaodd Helen ddiploma ôl-radd mewn cyfieithu ym Mhrifysgol Caint. Treuliodd gyfnodau hir yn byw dramor gan gynnwys blwyddyn yng Ngenefa yn dysgu Saesneg a phum mlynedd yn ne orllewin Ffrainc, lle gweithiodd fel cyfieithydd a lle bu'n athro yn Grandes Ecoles ENAC ac ENSICA. Mae hi hefyd wedi byw yn Aix-en-Provence, Siena, Rhufain a'r Unol Daleithiau.

Am yr ugain mlynedd diwethaf mae wedi gweithio fel cyfarwyddwr teithiau annibynnol ledled Ewrop, gan arbenigo mewn teithiau diwylliannol a theithiau cerdded yn Ffrainc a'r Eidal. Mae hi'n Dywysydd Bathodyn Glas Cymru ac mae wedi cymhwyso i dywys yn y Ffrangeg a'r Eidaleg yn ogystal â'r Saesneg.

Mae prosiectau cyfieithu ac ysgrifennu Helen yn cynnwys cyfieithu'r Michelin Guide to Egypt o'r Ffrangeg i'r Saesneg, yn ogystal â chyfraniadau at nifer o arweinlyfrau Eidaleg Michelin, gan gyfieithu o'r Eidaleg i'r Saesneg. Mae hefyd yn gyd-awdur Practical Guide to Toulouse/Midi-Pyrénées, sydd bellach yn ei chweched argraffiad.

Mae ieithoedd wedi bod yn bwysig iawn i Helen erioed - mae'n siarad Cymraeg yn rhugl, yn ogystal â rhywfaint o Almaeneg a Sbaeneg. Mae'n hoffi dysgu ychydig o ymadroddion o'r iaith wrth ymweld â gwlad newydd ac felly mae geiriaduron eraill ar ei silff lyfrau yn cynnwys Groeg, Tyrceg, Arabeg ac Armeneg!

*

*I ddarganfod mwy am ein gwasanaethau cyfieithu ym maes twristiaeth galwch +44 (0)1873 812 012 neu cysylltwch â telelingua.

*
*

© Hawlfraint Telelingua 2009 - Cedwir Pob Hawl

Website Design a SEO gan Carter Communication