telelingua: iaith taith a thwristiaeth
English Cymru Francais Ffôn: +44 (0)1873 812 012 info@telelingua.co.uk

Ein Cleientiaid

Swyddfa Dwristaidd Llywodraeth FfraincSwyddfa Dwristaidd Llywodraeth Ffrainc

Telelingua yw'r brif asiantaeth cyfieithu ar gyfer Swyddfa Dwristaidd Llywodraeth Ffrainc (Maison de la France) yn y DU. Mae'n cyfieithu erthyglau a datganiadau i'r wasg ar gyfer y wefan bob wythnos, a lwythir gan Telelingua yn uniongyrchol i'w gwefan drwy raglen a brosesir yn awtomatig.

Arweinlyfrau Coch MichelinArweinlyfrau Coch Michelin

Mae Telelingua wedi gweithio gydag Arweinlyfrau Coch Michelin am ddegawd, yn cyfieithu a golygu disgrifiadau o westai a argymhellir a bwytai y rhoddwyd sêr Michelin iddynt ar gyfer arweinlyfrau Ffrainc ac Ewrop.

Arweinlyfrau Gwyrdd MichelinArweinlyfrau Gwyrdd Michelin

Telelingua fu'n gyfrifol am gyfieithu Arweinlyfrau Gwyrdd Michelin i'r Aifft ac Andalwsia. Mae hefyd wedi golygu a chyfieithu cyfraniadau at yr Arweinlyfrau Gwyrdd canlynol: Sbaen; Portiwgal, Yr Eidal; Twsgani; Sisili; Fenis; Rhufain; Profens; Rhanbarthau Gwin Ffrainc. Telelingua hefyd gyfieithodd yr arweinlyfrau bychain canlynol: Granada; Seville; Córdoba.

Le Pérégrinateur EditeurLe Pérégrinateur Editeur

Helen Isaacs a Jeremy Kerrison yw awduron Practical Guide to Toulouse/Midi-Pyrénées (sydd bellach yn ei chweched argraffiad). Maent hefyd wedi cyfieithu'r cyhoeddiadau canlynol: Toulouse Mini-Guide; Versailles; The Lady and the Unicorn.

Bwrdd Croeso’r DordogneBwrdd Croeso'r Dordogne

Cyfieithu gwefan Dordogne (i'r Saesneg). Cyfieithu a chysodi/dylunio dau lyfryn 30 tudalen o'r Ffrangeg i'r Saesneg, yr Almaeneg, yr Iseldireg, yr Eidaleg a'r Sbaeneg. Cyfieithu cronfa ddata 200 tudalen ynglyn â llety a nifer o ddatganiadau i'r wasg.

Bwrdd Croeso Paris-Ile de FranceBwrdd Croeso Paris-Ile de France

Cyfieithu deunydd marchnata a hyrwyddo, cyflwyniadau a theithlenni teithiau cynefino.

Bwrdd Croeso CorrèzeBwrdd Croeso Corrèze

Cyfieithu gwefan Corrèze, arweinlyfrau poced a nifer o lyfrynnau.

Bwrdd Croeso Anjou (Loire)Bwrdd Croeso Anjou (Loire)

Cyfieithu i'r Saesneg gronfa ddata llety yn cynnwys 200 eiddo.

Bwrdd Croeso AudeBwrdd Croeso Aude

Cyfieithu nifer o ganllawiau teithio a gwin, datganiadau i'r wasg a chronfa ddata eiddo i'w rentu yn Clévacances, a lwythir yn uniongyrchol i wefan y bwrdd croeso.

Swyddfa Croeso BayeuxSwyddfa Croeso Bayeux

Cyfieithu datganiadau i'r wasg a chanllawiau gastronomig i'r Saesneg, yr Almaeneg a'r Iseldireg.

Swyddfa Croeso BloisSwyddfa Croeso Blois

Cyfieithu testun gwefannau a chanllaw 20 tudalen o wyliau byr i'r Saesneg a'r Sbaeneg.

Musée des Augustins, ToulouseMusée des Augustins, Toulouse

Cyfrannu cyfieithiadau i'r arweinlyfrau canlynol ar gyfer amgueddfeydd: "Romanesque Sculpture" a "Paintings and Sculptures from the Middle Ages to the 20th Century".

ClévacancesClévacances

Cyfieithu nifer o gronfeydd data yn ymwneud â llety drwy fyrddau croeso rhanbarthol.

Parc Cenedlaethol Bannau BrycheiniogParc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Cyfieithu'r llyfryn 'Ein Byd Naturiol' i'r Gymraeg.

Media Design, WalesMedia Design, Wales

Cyfieithu llyfrynnau/taflenni i nifer o ieithoedd.

Hôtel Les Deux Tours, MarrakechHôtel Les Deux Tours, Marrakech

Cyfieithu datganiadau i'r wasg o'r Ffrangeg i'r Saesneg.

Explore WorldwideExplore Worldwide

Cyfieithu contractau a rheoliadau diogelwch ar gyfer darparwyr gwasanaethau twristiaeth.

Croeso CymruCroeso Cymru

Aseiniadau yn ymwneud â chyfieithu ar y pryd/tywys ar gyfer asiantaethau teithio, trefnyddion teithiau ac ysgrifenwyr llyfrau taith.

Page & MoyPage & Moy

Cyfieithu contractau a gohebiaeth rhwng prif swyddfa'r cwmni a darparwyr gwasanaeth dramor (gwestai, asiantaethau lleol ac ati).

*

*I ddarganfod sut y gallai ein gwasanaethau cyfieithu ym maes twristiaeth helpu eich busnes chi galwch +44 (0)1873 812 012 neu cysylltwch â telelingua.

*
*

© Hawlfraint Telelingua 2009 - Cedwir Pob Hawl

Website Design a SEO gan Carter Communication