telelingua: iaith taith a thwristiaeth
English Cymru Francais Ffôn: +44 (0)1873 812 012 info@telelingua.co.uk

Gwasanaethau Cyfieithu ym maes Twristiaeth

Mae Telelingua, a sefydlwyd ym 1997, yn arbenigo mewn cyfieithu ym maes twristiaeth ac mae gan y cwmni dros ddeng mlynedd o brofiad o ddarparu gwasanaethau iaith arbenigol i'r sectorau twristiaeth a hamdden.

Dros y degawd diwethaf rydym wedi ffurfio cysylltiadau cryf gyda rhai o'r enwau mawr mewn twristiaeth. Mae'n cleientiaid yn cynnwys prif gyhoeddwyr arweinlyfrau, dylunwyr gwefannau, byrddau croeso cenedlaethol a rhanbarthol, swyddfeydd croeso, parciau cenedlaethol, amgueddfeydd, trefnwyr teithiau, gwestyau a bwytai sydd wedi dewis Telelingua i ateb eu gofynion penodol o ran cyfieithu am fod ganddynt gyfuniad o sgiliau taith a sgiliau iaith.

Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi datblygu gwybodaeth arbenigol am bob agwedd o dwristiaeth, yn amrywio o gelf a diwylliant, pensaernïaeth, hanes a daearyddiaeth, i hysbysebu a marchnata, bwyd a gwin, a chwaraeon a hamdden.

I gyd-fynd â'n gwaith cyfieithu ysgrifenedig, gallwn hefyd gynnig ystod o wasanaethau ieithyddol ychwanegol ar gyfer y sectorau twristiaeth a hamdden gan gynnwys darllen proflenni, dylunio llyfrynnau, a darparu cyfieithu ar y pryd ar gyfer sioeau teithio, digwyddiadau croeso, teithiau cynefino ac ati.

*

*I drafod eich gofynion cyfieithu neu i ofyn am ddyfynbris galwch
+44 (0)1873 812 012 neu cysylltwch â telelingua.

*
*

© Hawlfraint Telelingua 2009 - Cedwir Pob Hawl

Website Design a SEO gan Carter Communication