telelingua: iaith taith a thwristiaeth
English Cymru Francais Ffôn: +44 (0)1873 812 012 info@telelingua.co.uk

Cartref  |  Amdanom Ni  |  Ein Cleientiaid  |  Astudiaethau Achos  |  Cysylltwch â Ni

Gwasanaethau Cyfieithu ym maes Twristiaeth

Mae angen arbenigedd ieithyddol neilltuol ar gyfer cyfieithu llenyddiaeth sy'n seiliedig ar deithio a thwristiaeth, gan gynnwys defnyddio geirfa a therminoleg benodol, a gwybodaeth fanwl am y busnes teithio.

Dim ond cyfieithwyr sy'n cyfieithu i'w mamiaith ac sydd â llawer o flynyddoedd o arbenigedd mewn cyfieithu ar gyfer teithio a thwristiaeth a ddefnyddiwn ni. Oherwydd mai tîm bach o gyfieithwyr profiadol yn unig a ddefnyddiwn, gallwn fonitro pob cyfieithiad yn fanwl i sicrhau'r ansawdd uchaf bob tro.

Rydym hefyd yn gwerthfawrogi bod ein cleientiaid angen mwy na dim ond cyfieithiad. Dyna pam ein bod yn ymfalchïo yn ein gallu i addasu'r testun neu ddogfen wrth gyfieithu i anghenion eich cynulleidfa darged, gan roi ystyriaeth i wahaniaethau diwylliannol ac ieithyddol - i ni, mae cyfieithiad yn waith creadigol ac mae ein sgiliau ysgrifennu yn sicrhau bod pob testun yn newydd ac yn wreiddiol.

Arbenigedd penodol:

  • Arweinlyfrau a chanllawiau i ymwelwyr
  • Gwefannau teithio a thwristiaeth
  • Llyfrynnau a thaflenni
  • Canllawiau amgueddfeydd ac arddangosfeydd
  • Erthyglau papur newydd/cylchgronau
  • Deunyddiau hysbysebu a marchnata
  • Cylchlythyrau
  • Contractau a gohebiaeth
  • Cronfeydd data ar-lein

Meddalwedd:

Rydym yn gweithio gyda'r prif becynnau meddalwedd gan sicrhau y dychwelir ein cyfieithiadau atoch yn yr un fformat a gosodiad â'r ddogfen wreiddiol.

Rydym hefyd yn gyfarwydd â'r prif raglenni prosesu awtomatig a rhwydweithiau'r Fewnrwyd, sy'n ein galluogi i lawrlwytho/llwytho'r holl destunau wedi eu cyfieithu a ffeiliau yn uniongyrchol o neu i'ch rhwydwaith neu wefan.

Cyfraddau cyfieithu:

Dyfynnir ein prisiau yn ôl pob mil o eiriau, gyda chyfraddau gwahanol yn cael eu codi yn dibynnu ar y cyfuniadau o ieithoedd. Ar gyfer dogfennau gyda llai na mil o eiriau, codir cyfradd pro rata neu isafswm yn dibynnu ar hyd y testun.

Mae Telelingua wedi ei gofrestru ar gyfer TAW, felly ychwanegir TAW at yr anfoneb derfynol pan fo hynny'n briodol.

*

*I ddarganfod mwy am ein hystod o wasanaethau cyfieithu ym maes twristiaeth galwch +44 (0)1873 812 012 neu cysylltwch â telelingua.

*
Cyfieithiadau wedi eu haddasu i’ch marchnad darged.

Cyfieithiadau wedi eu haddasu i'ch marchnad darged.
 
Mae gennym arbenigedd ieithyddol neilltuol a gwybodaeth fanwl am y diwydiant teithio.

Ffôn: +44 (0)1873 812 012

 


 
*

© Hawlfraint Telelingua 2009 - Cedwir Pob Hawl

Website Design a SEO gan Carter Communication