Astudiaethau Achos yn ymwneud â Chyfieithu
Swyddfa Groeso Llywodraeth Ffrainc
Cysylltodd Swyddfa Groeso Llywodraeth Ffrainc â Telelingua yn ystod 2008 gyda chais am gyfieithu o'r Ffrangeg i'r Saesneg yr holl ddatganiadau i'r wasg ac erthyglau newydd a bostid ar ei gwefan, a llwytho'r holl destunau oedd wedi eu cyfieithu drwy gyfrwng ei rhaglen brosesu awtomatig.
Y brîff ar gyfer y prosiect hwn oedd sicrhau bod y cyfieithiadau yn greadigol ac yn llifo'n naturiol, ac wedi'u haddasu'n benodol ar gyfer darllenwyr Saesneg eu hiaith. Mae ein harbenigedd ieithyddol a'n gwybodaeth am deithio, gan gynnwys ugain mlynedd yn teithio ar hyd a lled Ffrainc, yn rhoi dimensiwn ychwanegol i'n gwaith i'r cleient hwn.
Ni yw eu prif gyfieithwyr yn y DU bellach a byddwn yn gweithio iddyn nhw bob wythnos. Drwyddynt rydym hefyd wedi datblygu cysylltiadau gyda phartneriaid eraill ym maes twristiaeth, gan gynnwys Byrddau Croeso Paris-Ile de France a Chorsica.
Ar ôl rhoi cynnig ar nifer o gwmnïau cyfieithu, bydd Maison de la France UK yn parhau yn deyrngar i Telelingua, sy'n cynnig gwasanaeth cyflym, ac o ansawdd uchel bob tro. Mae Jeremy a Helen yn arwain tîm o gyfieithwyr cyfeillgar ac effeithiol y mae eu sylw i fanylion yn ddiguro. Byddwn yn argymell Telelingua yn gryf i unrhyw rai o'n partneriaid!
Emilie Odoit,
Gwefeistr
Bwrdd Croeso Cenedlaethol Ffrainc
Bwrdd Croeso'r Dordogne, Ffrainc
Dechreuodd Telelingua weithio gyda Bwrdd Croeso'r Dordogne am y tro cyntaf yn 2004 ar brosiect oedd yn cynnwys cyfieithu gwefan y Bwrdd o'r Ffrangeg i'r Saesneg a'i lleoleiddio.
Yn dilyn hyn, mae Telelingua wedi darparu nifer o wasanaethau cyfieithu yn ymwneud â thwristiaeth i Fwrdd Croeso'r Dordogne, yn cynnwys cyfieithu a dylunio dau lyfryn 30 tudalen o'r Ffrangeg i bump o ieithoedd (Saesneg, Almaeneg, Iseldireg, Sbaeneg ac Eidaleg), a chyfieithu cronfa ddata 100,000 o eiriau yn ymwneud â llety a nifer o ddatganiadau i'r wasg.
Mae Bwrdd Croeso'r Dordogne a'r Adran Gwerthiannau a Marchnata wedi defnyddio gwasanaethau ieithyddol Telelingua ar gyfer nifer o brosiectau gwahanol (cyfieithu ein gwefan, cronfeydd data ar-lein a llyfrynnau i nifer o ieithoedd). Mae eu tîm o gyfieithwyr yn hynod o fedrus ac mae ganddynt wybodaeth fanwl am y derminoleg arbenigol sy'n angenrheidiol ar gyfer y diwydiant twristiaeth.
Dibynadwy, effeithiol, cyflym, cyfeillgar iawn, gan gynnig gwerth ardderchog am arian - dyma rai o'r nodweddion sy'n dod i'r meddwl wrth ddisgrifio Telelingua.
Micheline Morissonneau,
Rheolwr Datblygu Twristiaeth
Bwrdd Croeso'r Dordogne
Le Pérégrinateur, cyhoeddwr arbenigol yn Toulouse, Ffrainc
Ym 1999, daeth Jeremy Kerrison a Helen Isaacs i gysylltiad â'r cyhoeddwr hwn, sy'n uchel ei barch ac yn enwog am ei bortffolio nodedig o gyhoeddiadau yn ymwneud â thwristiaeth, y celfyddydau a diwylliant. Y bwriad oedd cynnig ysgrifennu arweinlyfr yn y Saesneg ar ddinas Toulouse ac ardal y Midi-Pyrénées.
Oherwydd fod bwlch yn y farchnad, cytunodd Le Pérégrinateur i'r prosiect a ganwyd The Practical Guide to Toulouse/Midi-Pyrénées. Mae'r arweinlyfr bellach yn ei 6ed argraffiad, ac ers hynny mae wedi ei gyfieithu i'r Ffrangeg. Mae Telelingua yn parhau i weithio gyda Le Pérégrinateur, yn cyfieithu arweinlyfr bach i'r ddinas a ddeilliodd o'r prif waith, yn ogystal ag arweinlyfrau cryno yn ymwneud â Versailles a thapestrïau Y Foneddiges a'r Uncorn yn Amgueddfa Cluny ym Mharis.
Maent yn weithwyr gwirioneddol broffesiynol, p'un ai'ch bwriad ydy cyfieithu llyfrynnau safonol neu destunau sy'n fwy 'llenyddol' eu harddull, gyda chyflymder eu gwasanaeth yn ddiguro. Byddwn yn argymell Telelingua i unrhyw un sy'n gofyn am safon uchel bob tro.
Catherine Piskiewicz-Mazères,
Cyfarwyddwr
Le Pérégrinateur Editeur
I drafod eich gofynion cyfieithu neu i ofyn am ddyfynbris galwch +44 (0)1873 812 012 neu cysylltwch â telelingua.